"Diolch diffuant i bawb yn Llanddaniel a'r cylch am eu parodrwydd i gynnig help gyda'm hymchwil i hanes capeli Llanelli. Bu un o berthnasau'r Parchg J Camwy Evans mewn cysylltiad a mi y llynedd, ac fe fum mor ffodus a chael dau lun arbennig ganddi o'r gwr ei hun. Gwelir Camwy yn ddyn ifanc golygus sydd newydd lanio yn Lerpwl ar ol mordaith hir o'r Wladfa. Campus iawn. Dysgais hefyd mai mab Camwy yw'r Capten Emlyn Wynne, sef y gwr a gladdwyd yn yr un bedd a Camwy a'i wraig, Emily, ym mynwent Cana.
Beth am hynt y llyfr, meddech chi? Wel, mae'r llawysgrif wedi ei chwblhau, ar ol tair blynedd o dwrio, ymchwilio ac ysgrifennu. Gwaith i'r agraffwyr yw hwn bellach. Cofiwch, mae na rai lluniau ar goll o hyd, ond rwy'n dal i chwilio yn egniol amdanynt.
Dysgais gyfrolau am hanes capeli Sir Gaerfyrddin, ac am ambell gymeriad a chapel yn y Gogledd hefyd. Daeth nifer o Ogleddwyr i Lanelli i weinidogaethu. Yn eu plith, ceir Dr Gwylfa Roberts, yr Annibynwr mawr, a gweinidog y Tabernacl, Llanelli, am ddegawdau. Dylem gofio Gwyndaf, Archdderwydd Cymru yn ei ddydd, yntau hefyd yn weinidog y Tabernacl. Bu Talfryn (E T Jones, Sion) yn un o dywysogion y pulpud am flynyddoedd maith, a Trefor Jones, Bethania, yn Fedyddiwr mawr ac yn gaplan i'r Seiri Rhyddion. Oes, mae na hanesion difyr iawn i'w hadrodd.
Ni ddylem anghofio am y gweinidogion hynny a gefnodd ar y De er mwyn dilyn gyrfa lwydiannus yn y Gogledd. But Hyfreithon (y Parchg John Owen Jones) yn weinidog Armenia, Caergybi, o 1926 ymlaen. Ond ai dyma'r un John Owen Jones a fu'n aroleswr y darllediadau crefyddol yng Nghymru? Efallai bod pobol Ynys Mon yn gwybod. Rhowch wybod, da chi, os oes gennych wybodaeth. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i dderbyn gair.
Diolch eto am eich caredigrwydd. Dylai'r llyfr fod ar gael ddechrau'r hydref."
APEL: AM WYBODAETH
“Rwy'n paratoi llyfr ar gapeli Llanelli, ac mae angen gwybodaeth arnaf am un o weinidogion y dref. Bu'r Parchg John Camwy Evans yn weinidog Pendref, Caernarfon, cyn symud i Lanelli ym 1931. Mae'n debyg iddo fod y ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Caernarfon (yn gynghorydd lleol ac yn y blaen). Ar ol cyfnod hir yn y Sowth, dychwelodd i'r Gogledd ac i Ddinas Dinlle lle bu farw ym 1963. Fe'i claddwyd ym mynwent Cana, Llanddaniel. Pebai unrhyw un o ddarllenwyr Papur Menai a rhagor o wybodaeth amdano, buaswn yn ddiolchgar tu hwnt. Fe'i claddwyd yn yr un bedd a'i wraig, Emily, ac un arall, sef y Capten Emlyn Wynne. Un o fechgyn y Wladfa oedd Camwy, a'i rhieni yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin. Mae'n bosib bod rhai yng nghylch Llyn yn dal i'w gofio: bu'n pregethu yn gyson hyd ei farwolaeth. Diolch i unrhyw un a all gynorthwyo a phob dymuniad da i ddarllenwyr Papur Menai ”
Huw Edwards
Gellir cysylltu â gwefan y pentref sef mail@llanddaniel.co.uk neu gysylltu efo gohebydd Llanddaniel. Diolch yn fawr
Huw Edwards’ original Appeal for Information...
BBC's Huw Edwards is writing a book about Chapels in Llanelli and is seeking further information regarding a Minister from the area. The Minister was Reverend John Camwy Evans who preached in Caernarfon before he moved to Llanelli in 1931. He was a prominent person in and around Caernarfon. After a long period in the South he moved to the North and to Dinas Dinlle where he died in 1963. Reverend Evans was buried in Capal Cana Cemetry in Llanddaniel.
Huw Edwards is seeking more information about Camwy’s life and the time he spent in North Wales.
If you have any information regarding Camwy or his family, then Huw is asking that you email the details to mail@Llanddaniel.co.uk or to Mared Lewis at Papur Menai.