Home
Accomodation
Anglesey Arts Weeks
BBC Local News
BBC's Huw Edwards
Businesses
Community Police
Community Shop
Feedback
Guest Book
History- Ancient
History- Census
History- Geneology
History- Village
History- Ysgol
Leisure
Links
Newyddion 2008
Newyddion 2007
News - submit
People - Tecwyn Roberts
People - Morfydd Jones
Photos - old ones
Photos - village
Quiz
Quiz - 1959
Register
e-mail me
 

Y Maison du Soleil
 

Y Maison du Soleil

Llyfr Newydd gan Mared Lewis - 'Y Maison du Soleil'

Tŷ haf yn ardal Poitou-Charentes, Ffrainc, ydy’r Maison du Soleil. Bob haf ers saith mlynedd byddai criw o ffrindiau – Tim ac Esyllt, Ben a Cadi, Gareth a Non – yn cyrraedd y Maison yn un haid am bythefnos yn yr haul. Ond mae pethau’n wahanol y tro hwn.

Yn dilyn marwolaeth Esyllt, perchennog y tŷ, mae Tim ei gŵr yn penderfynu gwahodd y pedwar arall i dreulio haf arall yn y Maison. Ond nid pawb sy’n hapus o dderbyn gwahoddiad Tim. Gydag absenoldeb Esyllt fel cysgod dros y criw, mae gan bob un ei resymau dros deimlo’n anghyfforddus yn y tŷ ac yng nghwmni ei gilydd, er mai derbyn y gwahoddiad a mynd i Ffrainc y gwna pob un yn y pen draw.

Mae’r tensiwn yn y Maison yn amlwg, gyda phob aelod yn meddu ar gyfrinach, a’r awyrgylch o dwyll a drwgdeimlad yn dew drwy’r tŷ. Ond cynyddu wna’r tensiwn gyda’r newyddion y bydd llythyr gan Esyllt, a adawyd yn ei ewyllys, yn cyrraedd y Maison cyn diwedd y gwyliau, gan sicrhau fod Esyllt yn dal i reoli’r pethau, yn union fel pan oedd hi’n fyw.

Wrth i’r pum ffrind geisio dianc rhag presenoldeb Esyllt a’i gafael ar ei bywydau, a fydd modd iddynt ddod i delerau â’r gorffennol a symud ymlaen? Sut effaith gaiff y gwyliau ar y berthynas rhwng y pum ffrind? A beth fydd dyfodol y Maison du Soleil?

Dyma nofel afaelgar, sy’n delio â materion yn ymwneud â ffrindiau, cyfeillgarwch, cariadon, a thwyll. Mae’r stori’n frith o gyfrinachau a throeon, ac mae gan bob cymeriad rhywbeth i’w guddio. Ceir cipolwg i ddyfnderoedd personoliaeth y cymeriadau, eu hofnau a’u dyheadau, a’u barn am ei gilydd. Yma ceir darlun o gwlwm criw o ffrindiau sy’n datod yn sydyn ac yn amlwg wedi i’r un person oedd yn eu dal at ei gilydd farw. Mae tywydd hafaidd a gwres tanbaid lleoliad y nofel yn llifo o’r tudalennau, gyda disgrifiadau niferus o dirwedd Ffrainc. Dyma nofel a chydymaith addas iawn ar gyfer gwyliau haf.

ISBN 9780860742494 Publisher: Gwasg Gwynedd, Caernarfon.     [Click here to purchase... ] (site not associated with Llanddaniel.co.uk)



Ffair Sborion
 

Ffair Sborion gan Mared Lewis o Llanddaniel

ISBN: 9781855967625 Publisher: Dref Wen, Caerdydd

 

Suitable for age 7-9.

Stori newydd i apelio i blant 7 - 9 oed gan yr awdures o Fôn, Mared Lewis. Lluniau deniadol gan Gillian F.Roberts. A new story which will appeal to 7-9 year olds by the Anglesey author, Mared Lewis. Attractive illustrations by Gillian F. Roberts.

 

Price £4.99 to purchase click here (site not associated with Llanddaniel.co.uk)



Esgid Wag Esgid Wag

Author: Mared Lewis of Llanddaniel Fab

Nofel afaelgar am wewyr personol gwr a gwraig sy'n ymdrechu i ymdopi â dirgelwch diflaniad ei hunig ferch chwe oed ddeng mlynedd ynghynt ac am y straen emosiynol o ofalu am berthynas hyn sy'n dioddef o glefyd Alzheimers.

A gripping novel about the personal anguish of a husband and wife who are struggling to cope with the mysterious disappearance of their six year-old only daughter ten years previously, and of the emotional strain of caring for an aged relative who is suffering from Alzheimer's disease.

ISBN: 1855966468 Publisher: Dref Wen, Caerdydd

PRICE £5.99 to purchase Click Here (external site not associated with Llanddaniel.co.uk)

Atgofion Hen Filwr Atgofion Hen Filwr

Hunangofiant Ifan G. Morris, gwr a aned yn 1920 ym mhlwyf Llanddanielfab. Ceir yn y gyfrol ei atgofion am arferion cymdeithasol a diwylliannol bro ei febyd, cyn adrodd ei hanes yn ymuno a'r fyddin ym mis Ebrill 1940. Cawn ddilyn ei daith i wledydd pell ac agos - yr Alban, De Affrica, yr Aifft a'r Eidal - ac am y profiadau a gafodd yn y mannau hynny. 25 llun du-a-gwy.
 
Ifan G. Morris' autobiography, who was born and bred in Llanddanielfab in 1920. The volume consists of his memories relating to social and cultural customs in his home village, before giving in detail his experience joining the army in April 1940. We follow his travels to many countries, and hear about his experiences. 25 black-and-white photographs.
 
£6.95 to purchase click here  (site not associated with Llanddaniel.co.uk)

Penrhyn Golf Complex Penrhyn Golf Complex

The Penrhyn Golf Complex has a nine-hole course, a 14-bay floodlit all-weather driving range together with putting area. Handicap cards/certificates are not required.

Address: Llanddaniel, Ynys Mon, Anglesey LL60 6NN. Phone: 01248 421150

Paul Lovell an experienced and well-respected professional is available by appointment. Golf clubs available are available for hire



 

|Home| |Accomodation| |Anglesey Arts Weeks| |BBC Local News| |BBC's Huw Edwards| |Businesses| |Community Police| |Community Shop| |Feedback| |Guest Book| |History- Ancient| |History- Census| |History- Geneology| |History- Village| |History- Ysgol| |Leisure| |Links| |Newyddion 2008| |Newyddion 2007| |News - submit| |People - Tecwyn Roberts| |People - Morfydd Jones| |Photos - old ones| |Photos - village| |Quiz| |Quiz - 1959| |Register|