Home
Accomodation
Anglesey Arts Weeks
BBC Local News
BBC's Huw Edwards
Businesses
Community Police
Community Shop
Feedback
Guest Book
History- Ancient
History- Census
History- Geneology
History- People
History- Village
History- Ysgol
Leisure
Links
Newyddion 2008
Newyddion 2007
News - submit
Photos - old ones
Photos - village
Quiz
Quiz - 1959
Register
e-mail me
 

Newyddion - Chwefror 2007
 

Newyddion Llanddaniel y mis yma gan Gohebydd: Mrs Mared Lewis Roberts

 

 

Fel gohebydd newydd Llanddaniel ar y papur, ac ar ran holl drigolion y pentref, hoffwn ddiolch o galon i Mrs Beti Jones am ei gwaith diflino fek gohebydd am dros ddeunaw mlynedd . Yr oedd cynhesrwydd ac anwyldeb ei chymeriad o hyd yn dod drosodd yn ei hysgrifennu. Rhaid i ni fodloni ar gael sgwrsio efo chi o gwmpas y pentref rwan, Bet!

Mae eich cyfraniad wedi bod yn un enfawr, a bydd chwith mawr ar eich hôl fel gohebydd

Mwynhewch eich “ymddeoliad” o’r papur yn fawr iawn, a diolch o galon i chi unwaith eto am eich gwaith yn dod â phobol Llanddaniel yn nes at ei gilydd.

 

 

 

PRIODAS

Llongyfarchiadau mawr i Gwenllian Griffith , 8 Maes Gwyn , a Gareth Morris, Llanfairpwll, ar achlysur eu priodas ar Ragfyr 21ain 2006.

Dyma lun hyfryd o’r ddau yn edrych yn hapus dros ben!

Y gwas priodas oedd Tecwyn Owen (ffrind Gareth) a’r morynion oedd Nicki, Gwen ac Alaw Haf. Y gwas bach (page boy) oedd Daniel Griffith.

Cynhaliwyd y brecwast priodas a’r parti nos yng ngwesty’r “Anglesey Arms” Porthaethwy.

Mae Gwenllian a Gareth yn cartrefu yn Llanddaniel.

 

Hoffai’r ddau ddiolch o galon am y cardiau , yr anrhegion a’r dymuniadau da y maent wedi eu derbyn ar achlysur eu priodas.

Dymunwn pob lwc, iechyd a hapusrwydd i’r ddau yn eu bywyd priodasol.

 

 

 

GWELLHAD BUAN 

Cofiwn yn gynnes iawn at y canlynol sydd ddim yn teimlo’n rhy dda ar hyn o bryd.

Mrs Betty Carr, 6 Tre Gof;  Mrs Irene Jones, 16 Tan Capel; Miss Llinos Williams, 15 Plas Hen; Mr Jeff Baker, 5 Tan Capel; Mrs Naomi Kelso, gwraig Tim a merch yng nghyfraith Ian a Mary Kelso, Tyddyn Bach.

 

Brysiwch wella, pawb!

 

 

CYDYMDEIMLO

Hoffem gydymdeimlo gyda’r teuluoedd canlynol yn eu profedigaeth o golli anwyliaid yn ddiweddar:

 

Mrs Bethan Morris a’r teulu , Drogan, ar farwolaeth tad a thaid annwyl ym Methesda.Daw’r golled yma yn dod fisoedd yn unig ar ôl colli Mr Ifan Morris Llain yr Haf. Yr oedd y ddau hefyd yn ffrindiau mawr.

 

Mrs Irene Jones, 16 Tan Capel. Bu farw cefnder iddi ym Manceinion

 

Mrs E. Parry, 10 Maes Gwyn. Bu farw chwaer yng nghyfraith iddi yng Nghaernarfon.

 

Bu farw’n sydyn Mrs Barbara Jones 13 Tan Capel ar Ragfryr 11eg yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n golled fawr i’r teulu.

Bu farw Mrs Minnie Owen ( 8 Bryn Gaer gynt) yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos Brynsiencyn cyn y Nadolig.

Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Bangor ar Ragfyr 14eg, a casglwyd arian er cof at yr Uned Rheumatology yn Ysbyty Gwynedd.

 

Rydym yn meddwl amdanoch i gyd yn eich tristwch a’ch hiraeth, deuluoedd annwyl. Derbyniwch ein cydymdeimlad dwysaf.

 

 

LLWYDDIANT

  • Artist o’r pentref!

Mae gan Jane Griffiths Jones o Garreg Ddyfnallt arddangosfa o’i gwaith yn Oriel Môn tan canol mis Mawrth.

Ewch draw yno i weld y lluniau. Da iawn Jane am gael y cyfle gwych yma i arddangos ei thalent.

  • Swydd newydd yn Llundain

Llongyfarchiadau mawr i Sion Morris, Y Wenllys, ar ei swydd newydd fel Cymrawd Ymchwil ( Research Associate) gyda Cymdeithas Brenhinol y Byddar . Bydd yn gweithio yng nghanol dinas Llundain. Llongyfarchiadau mawr iddo a phob hwyl yn y gwaith newydd.

 

 

LLONGYFARCHIADAU

i Mr Griffith Roberts Brynawelon ( Trefnant Wen gynt) am ddathlu ei benblwydd yn 70 oed ar Ragfyr y 21ain. Gobeithio y cawsoch ddiwrnod gwerth chweil, Mr Roberts!

 

 

Llanddaniel.co.uk

I’r darllenwyr sy’n hoffi mynd ar y cyfrifiadur, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd ar safle we y pentref! Ffrwyth llafur Stephen Pickering yw’r safle, gyda Gareth Iwan yn helpu. Mae’n safle gwerth ei gweld, a ceir hanes y pentref presennol a’r hen bentref, ynghyd â llawer o luniau diddorol dros ben. Da iawn i’r ddau am eu menter ac am eu gwaith caled yn sefydlu’r safle.

 

 

LLANEDWEN

Gyda thristwch y cydymdeimlwn â theulu Mrs Wendy Trautman , 2 Llwyn Edwen Llanedwen, a fu farw yn sydyn yn ei chartref ar ddiwrnod y Nadolig, a hithau’n ddim ond 50 oed.

 

Mae’n gadael ei gwr Stephen , ei phlant Christopher, Samantha, Caroline, Carl a’i tri wyr bach Simon, Ethan a Damon. Roedd yn fam yngh ngyfraith i Dafydd a Louise.

 

Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanedwen ar Ionawr 4ydd, ac fe’i claddwyd yn y fynwent. Casglwyd arian er cof am Wendy tuag at Cymdeithas Brydeinig y Galon.

Roedd gan Wendy gysylltiad agos iawn â Llanddaniel gan fod ei theulu yn ofalwyr ar yr hen Ysgol Parc y Bont am flynyddoedd, a’r plant wedi mynychu’r ysgol honno.

 

 

AELWYD YR URDD

Mae’r Aelwyd wedi dechrau eto bob yn ail nos Iau yn yr ysgol.

Cafwyd trip penigamp i’r Theatr fach cyn Dolig, a gweld Aron Morris, un o hogia’r pentref, yn perfformio. Da iawn ti eto, Aron.

I gloi’r tymor cyn Dolig, cafwyd disgo gwerth chweil yn neuadd yr ysgol. Diolch yn fawr i Mrs Sian Owen am wneud y bwyd i bawb o’r plant, ac i bawb arall fu’n help , heb anghofio diolch i’r plant am y dawnsio gwych!

Mae’r plant wrthi’n brysur yn gwneud gwaith ar gyfer cystadlaethau Celf a Chrefft yr Eisteddfod, ar y thema “Fy nglwad”. Pob hwyl iddynt, ac i bawb fydd yn cystadlu ar ran Aelwyd Llanddaniel yn yr Eisteddfod.

 

 

Neges gan Bet:

Croeso a diolch i Mared Lewis Roberts Llain Deg , am ddod i’r fei a chymryd y swydd o fod yn ohebydd Llanddaniel i Bapur Menai. Rydw i’n hynod o falch, Mared, a phob lwc i chi yn y dyfodol gyda’r gwaith.

Fe gaf fwynhau fy “ymddeoliad” rwan, gan wybod y bydd y newyddion pob mis mewn dwylo diogel. Rhif ffôn Mared yw : 422 133.

 

 

YSGOL PARC Y BONT

Thema “Yr Ail Ryfel Byd”

Bu plant yr Adran Iau yn gweithio’n galed yn ystod y tymor diwethaf yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd.  Ar ôl yr holl ddysgu cawsom barti go wahanol i orffen y gwaith.  Aeth y plant yn ôl mewn amser a mwynhau prynhawn y 40au.  Gwisgodd pawb fel pobl o’r cyfnod.  Cafwyd gemau a cherddoriaeth o’r 40au, a chyfle i flasu bwyd o’r cyfnod.  Daeth Mr Emyr Roberts a Mrs Evans-Jones o Gaerwen atom i sgwrsio am fywyd adeg y rhyfel ac ateb cwestiynau’r plant.  Diolch yn fawr iawn i’r ddau am roi o’u hamser i rannu eu profiadau gyda ni.

 

 

Miss Foulkes a disgyblion yr adran iau yn eu dillad o’r 1940au.

Ffrindiau Ffeil

Roedd plant dosbarth Miss Foulkes yn sêr am y diwrnod ym mis Rhagfyr pan ddaeth camerau a chyflwynwraig y rhaglen newyddion Ffeil i’r ysgol.  Roedd y plant yn Ffrindiau Ffeil am yr wythnos ac wedi bod yn e-bostio’r rhaglen yn gyson gyda’u newyddion.  Daeth y criw ffilmio yma yn ystod ymweliad PC Dewi Thomas i sgwrsio am beryglon cyffuriau.  Bu Karen, y gyflwynwraig, yn holi’r plant am eu sylwadau a’u hymateb i sgwrs PC Thomas.

 

 

Karen Peacock, y dyn camera, Elis, Liam, Fiona a PC Dewi Thomas

Myfyriwr

Bu David Price, myfyriwr o Goleg Menai yn helpu yn yr ysgol am ddiwrnod yr wythnos am rai misoedd.  Hoffai’r athrawon a’r plant  diolch iddo am ei waith caled.  Pob dymuniad da i ti gyda gweddill y cwrs David.

 

Ymweliad â Phentre Peryglon

Aeth plant blwyddyn 6 i Bentre Peryglon, Talacre, Sir y fflint ddiwedd mis Ionawr.  Safle o eddo Heddlu Gogledd Cymru yw’r Pentre Peryglon.  Cawsant ddysgu am beryglon yn y ty, ar y ffordd, y traeth, y rheilffordd, a llawer mwy.  Profiad buddiol iawn.

 

Gwasanaeth Sul Addysg

Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu Sul Addysg yn y Gadeirlan ym Mangor ar Ddydd Sul, Chwefror 4ydd.  Bu criw o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn canu yn y gwasanaeth.  Diolch i Mrs Ann Peters Jones am eu hyfforddi.




 

|Home| |Accomodation| |Anglesey Arts Weeks| |BBC Local News| |BBC's Huw Edwards| |Businesses| |Community Police| |Community Shop| |Feedback| |Guest Book| |History- Ancient| |History- Census| |History- Geneology| |History- People| |History- Village| |History- Ysgol| |Leisure| |Links| |Newyddion 2008| |Newyddion 2007| |News - submit| |Photos - old ones| |Photos - village| |Quiz| |Quiz - 1959| |Register|