Home
Accomodation
Anglesey Arts Weeks
BBC Local News
BBC's Huw Edwards
Businesses
Community Police
Community Shop
Feedback
Guest Book
History- Ancient
History- Census
History- Geneology
History- People
History- Village
History- Ysgol
Leisure
Links
Newyddion 2008
Newyddion 2007
News - submit
Photos - old ones
Photos - village
Quiz
Quiz - 1959
Register
e-mail me
 

 

LLANDDANIEL FAB - Papur Menai

Rhifyn Ebrill

 

Gohebydd: Mared Lewis Roberts

Ffôn: 01248 422 133

E-bost: mared@egin.co.uk

 

Sut mae’r hwyl?

 

Mae’n braf gweld byd natur yn dechrau deffro a’r wyn bach yn aflonyddu’r tirlun unwaith eto, tydi? Ryda ni i gyd yn hynod o lwcus i gael byw mewn cornel mor ddel o’r byd. 

 

Fel gohebydd cymharol newydd i’r papur, gaf i apelio yn garedig atoch am newyddion? Mae’n amhosib i mi fedru gwneud tegwch â beth sy’n digwydd yn pentref os nad ydy pobol yn rhoi gwybod i mi. Buaswn yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau.

 

Mae modd i chi adael eich negeseuon yn y siop erbyn hyn hefyd ( mae bocs i’r pwrpas ar silff y ffenest wrth y drws), cysylltu ar yr e-bost neu wrth gwrs gallwch godi’r ffôn neu daro rhywbeth drwy’r drws. Os oes gennych ddrudwy fach ddof fel oedd gan Branwen, mae croeso i honno efo papur yn ei phig hefyd!

 

Diolch yn fawr iawn.

 

 

Genedigaeth

Croeso mawr i fabi bach newydd, sef Mason, mab bach i Nia a’i phartner Jamie, ac wyr bach i Nerys Treflys. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd fel teulu.

 

 

Llongyfarchiadau cynhesaf i Mr a Mrs J.H. Wilshire, 6 Plas Hen, yn dathlu 67 o flynyddoedd priodasol ar yr 20fed o Ebrill! Da iawn wir, ynte! Gobeithio y bydd y diwrnod yn un hapus iawn iddynt.

 

 

Dymuniadau gorau

Deallwn nad yw Mr John Owen 10 Tan Capel wedi bod yn rhy dda yn ddiweddar, a’i fod wedi treulio amser yn yr ysbyty.

Hefyd, anfonwn ein cofion gorau at Mrs E Parry 10 Maes Gwyn nad yw’n teimlo’n dda o gwbwl ar y funud.

Dymunwn y gorau i’r ddau ohonoch.

 

 

O Landdaniel i Gwm Deri!

Da iawn clywed fod Aron Morris Drogan wedi cael rhan dros dro yn y gyfres opera sebon “Pobol y Cwm” !. Mae’n treulio mis yng Nghaerdydd yn ymarfer ac yn ffilmio. Mae Aron yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor yn astudio “Ffilm a’r Cyfryngau”. Da iawn ti. Cawn fwy o fanylion y mis nesaf, gobeithio.

 

 

Cyngor Cymuned Llanddaniel Fab

Dymuna’r Cyngor hysbysu trigolion Llanddaniel fod darpariaeth ieithyddol gwasanaeth y Cyngor wedi ei ddarparu yn unol â Chynllun yr Iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn 2006-2007. Os am fwy o fanylion, mae Adroddiad Monitro cyflawn ar gael ar hybysfwrdd Swyddfa Post Llanddaniel.

 

 

Lisa Roberts a’r daith i Honduras

Rydym fel pentref yn falch iawn o ymdrechion Lisa o’r pentref sy’n mynd draw i Honduras fel rhan o griw o Ysgol David Hughes. Cloriannwyd yr hanes y mis diwethaf gan ohebwyr Llandegfan. Gwnaeth Lisa’n arbennig o dda yn ei arholiadau TGAU y llynedd, ac mae hi â’i bryd ar fynd yn feddyg.

 

Dyma neges gan Lisa :

 

“Ar y funud, mae’r grwp yn gweithio ar ei ffitrwydd er mwyn gallu ymdopi â’r cyfnod y byddwn yn cerdded i fyny mynydd mwyaf Honduras, sy’n 2849 medr o uchder!

 

Rydym yn cael penwythnos hyfforddi ar Eryri ar benwythnos Ebrill 20-22. Bydd hwn yn gyfle i ni brofi’r kit yr ydym yn hel pres amdano ar y funud, yn ogystal ag yn gyfle i gryfhau’n sgiliau.

Pinacl y penwythnos fydd gwneud “abseil noddedig” oddi ar gastell Penrhyn!

 

Hoffai’r grwp ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi eich achos, ac i gwmni “FAWN” am noddi’r grwp. “

 

Pob hwyl iddi, ac efallai cawn mwy o hanes y daith yn y rhifynnau nesaf.

 

 

LLONGYFARCHIADAU i Mared Wyn, Y Wenllys, sydd wedi pasio ei gradd mewn nyrsio o Brifysgol Bangor, a hynny mewn steil drwy gael gradd dosbarth cyntaf! Da iawn hi ar ei champ. Mae hi’n gweithio erbyn hyn ar Ward Alaw Ysbyty Gwynedd fel “Staff nurse”. Dymuniadau gorau iddi at y dyfodol.

 

Bore Coffi Tan Capel

Cynhaliwyd bore coffi yn y Neuadd Gymuned Tan Capel mis Chwefror, wedi ei drefnu gan Mrs Lorraine Williams, Warden Tan Capel. Codwyd £28.10 tuag at Clefyd Motor Neurone. Mae’r arian wedi mynd at Mrs Ann Street a’i grwp ym Miwmares, sydd yn rhoi cymorth i gleifion sy’n dioddef o’r salwch yma ym Môn a Gwynedd.

Mae Mrs Street a’r grwp yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r bore coffi.

 

 

Ci bach clyfar Llanddaniel!

Roedd yn ddiddorol iawn darllen am gi bach go arbennig o’r pentref  sef “Hiro”, ci bach Gareth a Helen Foulkes, “ Y Neuadd”. Roedd Hiro wedi helpu Gareth, sy’n fyddar, i ffendio ei ffordd yn ôl drwy’r niwl at Helen wrth fynydda un diwrnod. Mae Hiro bach wedi cael ei hyfforddi fel ci sy’n cynorthwyo’r byddar.

Da iawn yr hen gi bach!

 

 

Aelwyd yr Urdd

Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Cylch a Sir yr Urdd yn ystod mis Mawrth. Roedd y plant wedi gweithio’n galed iawn, a cafwyd tri yn llefaru ( Sara Pigott, Fiona Coutts ac Elis Roberts), tri yn chwarae offerynnau ( Fiona Coutts ar y ffliwt, Elis Roberts ar y clarinet a Catrin Round ar yr oboe) a phedwar yn cystadlu ar yr ymgom yn y Sir ( Liam Aston, Rebecca Armstrong, Elis Roberts a Clare Evans). Bu Ruth Davies yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd i’r Adran Uwchradd, drwy ddod yn ail ar yr alaw werin. Gwych, Ruth!

Llongyfarchiadau i bawb o’r plant ar ymdrech ardderchog.

 

Mae Aelwyd Llanddaniel yn cyfarfod pob yn ail nos Iau  yn yr ysgol.

 

 

COFION GORAU

- At Mrs Margaret Lloyd 3 Maes Gwyn, sydd n gwella ar ôl cael triniaeth yn yr Ysbyty yn dilyn codwm.

 

- At Mrs Betty Carr 6 Tre Gof sydd hefyd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd.

 

Ein dymuniadau gorau atoch eich dwy.

 





 

|Home| |Accomodation| |Anglesey Arts Weeks| |BBC Local News| |BBC's Huw Edwards| |Businesses| |Community Police| |Community Shop| |Feedback| |Guest Book| |History- Ancient| |History- Census| |History- Geneology| |History- People| |History- Village| |History- Ysgol| |Leisure| |Links| |Newyddion 2008| |Newyddion 2007| |News - submit| |Photos - old ones| |Photos - village| |Quiz| |Quiz - 1959| |Register|