RHIFYN MAI 07
GWAELEDD
Mae amryw o drigolion y pentref wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar, neu yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
- Mr Geoffrey Wilshire Plas Hen, sydd newydd ddychwelyd adra. Fe gofiwch fod Mrs Wilshire ac yntau wedi dathlu bod yn briod ers chwe deg saith mlynedd ym mis Ebrill.
- Mrs Betty Carr sydd dal yn Ysbyty Glan Clwyd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth.
- Fel yr oedd y pwt yma yn cael ei sgwennu, yr oedd Mrs Renee Jones 17 Tan Capel wedi ei derbyn i Ysbyty Gwynedd i gael triniaeth.
- Da gweld fod Mr Clarence Jones Mount Pleasant yn gwella ar ôl cael cyfnod yn Ysbyty Gwynedd.
- Cofiwn hefyd at Dr Rhys Davies Noddfa a gymerwyd yn wael tra ar ei wyliau ym Merlin yn ddiweddar. Mae Rhys bellach yn ôl adra yn gwella, a bydd yn ôl yn ei waith yn y ddeintyddfa ymhen dim.
- Mae’n dda gweld hefyd fod Mrs Margaret Lloyd yn gwella ar ôl torri ei garddwn ar ôl syrthio y mis diwetha. Cymerwch digon o ofal rwan, Mrs Lloyd.
- Mae Geraint , tad Clare a Dion, gwr Jackie mab Ruth ac wyr i Daisy o’r pentref, hefyd wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl torri ei arddwn wrth fynd ar y motobeic ar y safle “Motorcross” lleol. Balch o glywed ei fod yn gwella.
- Mae mam Mrs Nerys Bodlew Isaf , sef Mrs Aileen Jones, yn aros efo’r teulu yn Llanddaniel ar hyn o bryd wrth iddi wella ar ôl cael clun newydd. Pwyll pia hi wrth gryfhau, Mrs Jones !
Anfonwn ein dymuniadau gorau atynt i gyd.
CYDYMDEIMLO
Estynnwn ein cydymdeimlad at y canlynol sydd wedi colli anwyliaid dros y mis diwethaf:
- Teulu Parciau . Bu farw mam Sioned sef Mrs Janet Thomas, Graig, Gaerwen ar ddechrau mis Ebrill.
- Teulu Dr Ellis Wynn Owens Maes Garnedd. Roedd Dr Owens yn gyn feddyg teulu ym Meddygfa Glanfa, Bangor.
Cofion atoch i gyd yn eich profedigaethau.
ARTIST LLEOL YN ARDDANGOS EI GWAITH
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Daisy Wyn Griffith, Pen Bryn , ar gael arddangosfa o’i gwaith yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog Pen Llyn. Gwerthwyd dau lun gan Daisy cyn i’r arddangosfa agor yn swyddogol, cymaint oedd y diddordeb yn ei gwaith! Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Hywel Gwynfryn.
Fel y gwyddoch yn dda, mae ei lluniau yn wirioneddol wych.
Rydym fel darllenwyr Papur Menai yn llongyfarch Daisy yn fawr ar ei llwyddiant, ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol.

Dyma lun Daisy Wyn Griffith gydag un o’i lluniau , sef llun o Gapel Pencarneddi yn Star.
Mae ei lluniau hefyd ar werth yn Oriel Daniel yn y pentref.
BABIS BACH NEWYDD
Ganed babi bach newydd arall i’r pentref ar Ebrill 11, sef mab bach i Jessie a Seamus , Isfryn, a brawd bach i Catherine. Croeso mawr atom a llongyfarchiadau.
Llongyfarchiadau hefyd i Tracey a Mark 2 Plas Hen ar enedigaeth merch fach , Ella Mae, chwaer fach i Leon Morgan. Yn ddiddorol iawn, May Williams Bryn Maelon oedd y fydwraig oedd yn gofalu am yr enedigaeth ar yr uned famolaeth, ac mae enw canol y fechan wedi ei henwi ar ei hôl. Hwyl fawr i chi yn deulu bach.
Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog hefyd i Sioned a Mark , Parciau. Ganed rhodd o ferch fach arall i’r ddau ar Ebrill 19, chwaer fach i Cara.
Cofion atoch i gyd fel teulu ar yr adeg yma.
AELWYD YR URDD
Llongyfarchiadau mawr i’r criw bach dygn fu’n cystadlu ar yr ymgom yn Eisteddfod Sir yr Urdd yn Llangefni. Roedd Liam, Elis Rebecca a Claire wedi bod yn ymarfer yn brysur iawn ond yn anffodus bu’n rhaid i “ferch Llyn y Fan” sef Claire dynnu’n ôl o’r Sir y noson cynt gan ei bod wedi cael salwch. Diolch felly i Fiona am gamu i’r bwlch ar fyr rybudd.
Llwyddodd y criw bach gweithgar fynd drwy’r rhagbrawf a chael y drydedd wobr wedyn ar y llwyfan. Da iawn chi am wneud cystal.
Diolch hefyd i Mrs Marian Roberts Brynsiencyn,(nain Elis!) am ddarparu’r miwsig ar gyfer y perfformiad.
YSGOL PARC Y BONT
Taith Gerdded Pasg
Trefnwyd taith gerdded gan y Gymdeithas Rieni ac Athrawon cyn gwyliau’r Pasg. Roedd y tywydd yn braf a chafwyd taith hamddenol oddi amgylch llwybrau cyhoeddus yr ardal. Cafodd y plant wy Pasg mewn cyw bach melyn ar ddiwedd y daith yn rodd gan y Gymdeithas. Diolch i bawb fu’n ymwneud â’r gwaith trefnu ac a fu’n ein cynorthwyo ar y diwrnod. Diolch hefyd i Mrs Olive Thomas am wau’r cywion bach, roeddent yn ddiogon o sioe!
Plannu Coed
Aeth plant yr adran iau i Nant y Pandy, Llangefni i blannu rhagor o goed ifanc yn ddiweddar. Roedd hyn yn barhad i’n cysylltiad agos i’r prosiect o gasglu hadau a phlannu coed cynhenid yn yr ardal.
Bws Ail-gylchu
Bu’r plant yn dysgu sut y gallwn ofalu am ein hamgylchfyd drwy ail-gylchu,
ail-ddefnyddio ac arbed gwastraff. Cafodd y plant chwarae gêm bowlio deg gyda photeli plastig wedi eu hail-ddefnyddio, a dysgu nad oes rhaid cael teganau newydd i gael hwyl!
Grymoedd
Daeth cynrychiolwyr o gwmni “Techniquest” i’r ysgol i gynnal gweithgareddau ar rymoedd Ddydd Iau, Ebrill 19eg. Bu’r plant ieuengaf yn gwneud parashiwt i wy papur fel ei fod yn glanio’n ddiogel. Sialens plant yr adran iau oedd creu chwiliedydd gofod er mwyn glanio wy yn ddiogel. Roedd y plant wrth eu boddau yn dylunio a chreu eu dyfeisiadau. Cafwyd llawer o hwyl yn gweld rhai o’r wyau yn glanio’n ddiogel ac eraill yn malu’n ddarnau!
Cystadleuaeth Arlunio
Llangyfarchiadau mawr i Catrin Mai, blwyddyn 1, am ddod yn ail (Adran blwyddyn 1 a 2) yng nghystadleuaeth arlunio bywyd gwyllt a drefnwyd gan Sw Fynydd Gymreig, Bae Colwyn. Gwnaeth lun bendigedig o deigr. Bydd yn cael ei gwobrwyo mewn seremoni yn y sw ddechrau mis Mehefin. Da iawn ti Catrin!
Dymunwn ddatgan ein cydymdeimlad dwysaf â Mrs Mari Thomas, cogyddes yr ysgol, ar ei phrofedigaeth o golli ei mam.