Home
Accomodation
Anglesey Arts Weeks
BBC Local News
BBC's Huw Edwards
Businesses
Community Police
Community Shop
Feedback
Guest Book
History- Ancient
History- Census
History- Geneology
History- People
History- Village
History- Ysgol
Leisure
Links
Newyddion 2008
Newyddion 2007
News - submit
Photos - old ones
Photos - village
Quiz
Quiz - 1959
Register
e-mail me
 

  PAPUR MENAI - NEWYDDION MIS MEHEFIN 2007

LLANDDANIEL FAB

GOHEBYDD: Mared Lewis Roberts - 01248 422 133

mared@egin.co.uk

neu cofiwch am y bocs yn siop

a safle gwe’r pentref : www. llanddaniel.co.uk

Sut mae’r hwyl? Dyma’r newyddion o’r pentref. Diolch o galon am bawb sy’n cyfrannu gydag unrhyw bwt o newyddion a chyfarchion. 

BABIS BACH NEWYDD

  • Llongyfarchiadau i Gemma a Haydn 1 Maes Gwyn ar enedigaeth merch fach ar Ebrill 25, gyda’r enw hyfryd Heulwen Haf. Chwaer fach i Cafan. Croeso mawr iddi.
  • Croeso hefyd, hwyr braidd ond diffuant, i Casey Louise Smith, merch fach i Elsie, a wyres fach i Mrs Cecilia Griffiths 3 Cae Berllan.

Hwyl fawr i’r ddau deulu efo’r ddwy hogan bach.

 

CYDYMDEIMLO

Cydymdeimlwn yn ddwys â’r canlynol sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar:

  • Mrs Mair Davies a’r teulu, Ty’r Defaid ar golli mam a nain annwyl ym Mhenmynydd. Bu farw Mrs Olwen Thomas yn ei chartref Dragon Wen ddiwedd Ebrill.
  • Mr Richard Clark, ar golli ei fam.
  • Mrs Menna Whitehead 4 Plas Hen sydd wedi colli ei modryb.

Cofiwn atoch i gyd yn eich profedigaeth.

 

LLANDDANIEL AC EISTEDDFOD MôN

Da iawn i’r canlynol am gystadlu yn Eisteddfod Môn ym Modffordd ganol Mai:

Sara Pigott am gystadlu ar y llefaru rhwng 8 a 10 oed ;  Elis Roberts Llain Deg am gystadlu ar y llefaru rhwng 10 a 12 oed.

(Mae Sara yn ferch i Heulwen a Brian, yn chwaer i Daniel ac yn wyres i Mr a Mrs Roberts Ty Gwyn Llanddaniel. )

Daeth Elis hefyd yn drydydd ar y clarinet yng Ngwyl Gerddorol Eisteddfod Môn.

Llongyfarchiadau hefyd i Ruth Davies Ty’r Defaid ar ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth sgwennu creadigol blwyddyn deg ac unarddeg, a mynd ymlaen wedyn i ennill Tlws yr ysgrifennwr mwyaf addawol yn yr adran Ieuenctid. Gwych iawn. Dal ati.

Rhaid llongyfarch Clarence Jones Mount Pleasant yn ogystal ar ddod yn bedwerydd yng nghystadleuaeth yr Her Unawd. Tipyn o gamp, a Clarence os cofiwch wedi dod adra o’r Ysbyty prin wythnosau’n ôl. Da iawn wir.

Ymddiheuriadau os ydw i wedi gadael enw unrhywun allan drwy ddamwain!

Cafwyd Eisteddfod ardderchog, a’r safon yn uchel iawn. Pob hwyl ar y trefnu i griw Llandegfan sy’n cynnal Eisteddfod Môn 2008!.

 

BORE COFFI A SêL LYFRAU

Cynhelir sêl lyfrau a bore coffi yn Siop yr Efail ar ddydd Sadwrn, Mehefin 9fed rhwng 10 a.m. a 1p.m.

Sandra Eckworth sy’n trefnu’r digwyddiad a hynny ar gyfer codi arian i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Bydd llyfrau modern, i blant ac oedolion, yn ogystal â dvds ar werth am brisiau rhesymol. Os oes  gennych lyfrau i’w cyfrannu, yna plis dowch â nhw i’r siop ar y bore, ond ddim ynghynt, os gwelwch yn dda.

Dewch draw am fargen, i gyfrannu at yr achos, ac i gefnogi ein siop leol.

 

BORE COFFI TAN CAPEL

Cynhaliwyd bore coffi ar Fehefin 1af yn neuadd gymunedol Tan Capel, wedi ei threfnu gan y warden Mrs Lorraine Williams.

Bydd Lorraine yn cynnal bore coffi ar fore Gwener cyntaf pob mis, rhwng 10 ac 11. Croeso i bawb. Mae’r mynediad am ddim, ond derbynnir cyfraniadau os dymunir at achosion da.

 

GWAELEDD

Dymuniadau gorau i Mrs Wilshire, Stâd Plas Hen, sydd wedi treulio amser yn yr Ysbyty. Mae Mr Wilshire wedi bod yng Nghartref Glan Rhos Brynsiencyn am gyfnod ond mae’n cael dod adra’ yn ôl yn ysbeidiol.

Deallwn hefyd nad yw Ms Sheila Hayward yn rhy dda ar hyn o bryd. Cofion gorau ati hi.

Hefyd anfonwn ein dymuniadau gorau at Mrs Betty Carr 6 Tre Gof,  sydd yn parhau i dderbyn triniaeth. Dymuniadau gorau ar ran darllenwyr Llanddaniel “Papur Menai”, a phawb arall sy’n eich adnabod.

Clywsom nad yw Mrs James, mam Dr Mari Kelso Tyddyn Bach, wedi bod yn rhy hwylus yn ddiweddar. Cofion gorau ati hithau hefyd.

 

CYLCH TI A FI

Diolch i Nerys Roberts Bodlew Isaf am baratoi’r pwt canlynol am y Cylch:

“Criw o fabanod cyn-ysgol a’u rhieni sydd yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos  o dan arweiniad medrus Mrs. Anna Roberts yw’r Cylch Ti a Fi. Yn ystod y sesiynau hyn yn neuadd Ysgol Parc Y Bont y mae’r plant bach yn cael llu o brofiadau gwerth chweil megis peintio, gludo, canu, gwrando ar straeon yn ogystal â’r profiad gwerthfawr o gael cymysgu a chyd-chwarae a phlant eraill.

Am gyfnod o chwe’ wythnos  y mae Mrs. Lis Pleming o’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn gofalu am sesiynau fore Mawrth. Hyd yma y mae’r plant wedi bod yn gwneud gwaith crefft, yn blasu ffrwythau amrywiol ac yn gwneud brechdan jam ei hunain, cyn iddynt eu llowcio, bob tamaid! Y mae croeso i  unrhyw blentyn  bach cyn-ysgol i ymuno â’r  hwyl ac wrth gwrs y mae’n gyfle da i rieni i ddod i adnabod ei gilydd dros baned!”

Mae’r Cylch yn cyfarfod rhwng 9 ac 11 fore Mawrth, a rhwng 1 a 3 bnawn Gwener.

 

BOCS NODI WEDI DIFLANNU

Dymuna Mrs Griffith Llwyn Idris hysbysu’n darllenwyr fod y bocs codi arian ar gyfer crydycymalau wedi diflannu o’r siop, rhag ofn fod rhai ohonoch yn meddwl tybed lle’r oedd o.

Mae hyn yn drueni mawr gan fod triogolion y pentre yn cyfrannu’n dda at yr achos pwysig yma.

Dyma lun o’r bocs casglu gyda chymeriad Nodi ar ei ben. Byddem yn ddiolchgar iawn o dderbyn unrhyw wybodaeth am hynt a helynt y bocs erbyn hyn.

Diolch yn fawr iawn.

Hen dro, ynte?

 

AELWYD YR URDD

Cafwyd sesiwn hwyliog dros ben yn ddiweddar pan ddaeth hyfforddwr rygbi proffesiynol at y plant i gynnal awr ar sgiliau rygbi. Chris Williams, tad Osian a Ffion oedd yn ddigon caredig i roi ei amser i ni, a cafodd y plant fodd i fyw yn cael hwyl wrth daflu, dal, rhedeg ac ati dan arweiniad hwyliog ond cadarn Chris.

Ryda ni i gyd yn ddiolchgar iawn iddo ac yn edrych ymlaen at y sesiwn nesaf efo fo rhywbryd.

Ma’r tywydd braf yn ein denu ni allan i gyd yn ystod sesiynau’r Urdd a cafwyd noson dda o rownderi ganol mis Mai gyda Mrs Sian Owen yr arweinydd yn reffari.

Byddwn yn ymarfer yn brysur o hyn ymlaen at Fabolgampau Cylch Menai yr Urdd ar y 19eg o Fehefin ar gaeau Ysgol David Hughes. Pob lwc i bawb!

Dymuniadau gorau hefyd i ddeg o griw blwyddyn pedwar pump a chwech fydd yn mynd i Wersyll Glan-Llyn ddiwedd Mehefin, ac i Sandra Evans a Manon Haf Jones am fynd efo’r plant i’w goruchwylio. Gobeithiwn gael fwy o’u hanes yn y rhifyn nesaf. Dwi’n siwr y cawn nhw hwyl!

 

CYFARFOD BLYNYDDOL “TRIGOLION LLANDDANIEL FAB”

Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Parc y Bont ar nos Fercher Mai 23. Cwmni “Trigolion” sydd yn berchen ar adeilad “Siop yr Efail” yn y pentref.

Bu trafodaeth o’r materion sydd yn effeithio ar y siop. Mae pryder dros gwtogi’r oriau agor a hefyd am y bygythiad posib i’r post yn sgil ad-drefnu cenedlaethol.

Cafwyd sawl cynnig adeiladol o’r llawr ar sut i ymateb i’r herion a sut i symud ymlaen. 

Os oes gennych unrhyw gynigion neu awgrymiadau, yna a fyddech cystal â’u rhoi drwy law Kath yn y siop, neu i’r Ysgrifennydd Mr Dafydd Owen 3 Tre Gof.

 

POB LWC i bawb o bobol ifanc y pentref sy’n sefyll arholiadau TGAU, Lefel “A” neu arholiadau gradd yn ystod yr wythnosau nesaf. Gwnewch eich gorau. Fe fydd y cyfnod yma drosodd ymhen dim, cofiwch!





 

|Home| |Accomodation| |Anglesey Arts Weeks| |BBC Local News| |BBC's Huw Edwards| |Businesses| |Community Police| |Community Shop| |Feedback| |Guest Book| |History- Ancient| |History- Census| |History- Geneology| |History- People| |History- Village| |History- Ysgol| |Leisure| |Links| |Newyddion 2008| |Newyddion 2007| |News - submit| |Photos - old ones| |Photos - village| |Quiz| |Quiz - 1959| |Register|