Home
Accomodation
Anglesey Arts Weeks
BBC Local News
BBC's Huw Edwards
Businesses
Community Police
Community Shop
Feedback
Guest Book
History- Ancient
History- Census
History- Geneology
History- People
History- Village
History- Ysgol
Leisure
Links
Newyddion 2008
Newyddion 2007
News - submit
Photos - old ones
Photos - village
Quiz
Quiz - 1959
Register
e-mail me
 

 

PAPUR MENAI - NEWYDDION HYDREF 2007

 

Llanddaniel Fab.  Gohebydd: Mared Lewis - Ffôn: 01248 422 133

mared@egin.co.uk

 

 

BABI BACH NEWYDD

Llongyfarchiadau mawr i Gwenllian a Gareth Morris, 8 Maes Gwyn ar enedigaeth merch fach ar y 7fed o Fedi sef Elin Mair. Roedd hi’n pwyso chwe phwys saith owns.  Dwi’n siwr fod Daniel ac Alaw wrth eu boddau efo’u chwaer bach newydd. Mae Elin yn wyres fach i Jean a Victor o’r pentref, ac i Carys ac Andrew Llanfairpwll. Llongyfarchiadau mawr i chi fel teulu.

 

 

CYFARCHION PENBLWYDD ARBENNIG

- Bydd Mrs Irene Jones 16 Tan Capel yn dathlu ei phenblwydd yn 80 oed ar Hydref 22. Ar ran trigolion y pentref, hoffwn ddymuno llongyfarchiadau mawr iddi a gobeithio y cewch chi ddiwrnod gwerth chweil. 

 

- Cyfarchion arbennig hefyd i David Thomas, Trefnant oedd yn dathlu ei benblwydd yn un ar hugain oed ar y 3ydd o Hydref. Gobeithio dy fod wedi cael diwrnod i’w gofio.

- Dymuniadau gorau hefyd i’w frawd Iwan Thomas fydd yn ddwy ar bymtheg oed ar Hydref 11.

Cyfarchion oddi wrth pawb o’r teulu.

 

 

YMDDEOLIAD HAPUS

Dymuniadau gorau i Mr Clarence Jones Mount Pleasant sydd wedi ymddeol o’i waith yn y Bwrdd Dwr ar ol pedwar deg saith o flynyddoedd o wasanaeth. Dechreuodd ei waith yn ôl yn 1960.

Mae Clarence rwan yn edrych ymlaen at barhau i gerdded a beicio o gwmpas yr ardal, ac wrth gwrs i ddal ymlaen i ganu. Mae wedi cael cryn lwyddiant yn unigol ac yn  aelod o gôr Lleisiau’r Frogwy ers dros bymtheg mlynedd.

Llongyfarchwn Clarence ar ei lwyddiant diweddaraf, sef dod yn gyntaf ar yr her unawd yn Eisteddfod Llandegfan dros yr haf .

Mae Clarence a Rona ei wraig newydd ddwad yn ôl o weld cornel arall o’r byd , sef San Francisco a Vancouver. 

Cofion gorau am ymddeoliad hapus iawn.

Clarence Jones

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

LLWYDDIANT

Llongyfarchiadau i’r canlynol am lwyddo yn eu haroliadau offerynnol dros yr haf:

Elis Roberts – Arholiad Clarinet gradd 3

Catrin Round – Arholiad Oboe, gradd 2

Iddon Roberts – Arholiad Cornet, gradd 1.

 

Mae Elis a Catrin yn cael eu hyfforddi gan Mrs Catherine Jones, Llanfairpwll ac mae Catrin hefyd yn cael ei dysgu gan Jane Parry o Fangor. Mae Iddon yn cael ei hyfforddi gan Mr Gwyn Evans, Llanddaniel.

 

Da iawn a daliwch ati!

 

 

PROFEDIGAETH

Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf at Mrs Menai Lewis, Mark, Carwyn a Llinos 15 Plas Hen, ar golli tad Menai a thaid Llinos a Carwyn, sef Mr Richard William Roberts  Bethesda ar Fedi 10fed.Bu’r angladd ar Fedi’r 14eg, gyda rhoddion ar gyfer Eglwys Unedig Bethesda ac Uned Gofal Coronari Ysbyty Gwynedd.  Cofion atoch fel teulu ar yr adeg anodd yma.

 

 

CLWB IEUENCTID

Mae’r Clwb wedi ail ddechrau yn yr ysgol . Cynhelir ar nos Iau rhwng 7 a 9 o’r gloch dan arweiniad Glyn Rowlands a chymorth Lorraine Williams. Bydd Lisa Hussey o’r Gaerwen y cymryd drosodd fel arweinydd ym mis Tachwedd.

Ceir cyfle i chwarae tenis bwrdd, dartiau, snwcer a chymdeithasu efo ffrindiau. Mae’r Clwb ar agor i bobol ifanc rhwng 11 a 18 oed. Croeso i bawb.

 

 

CALAN GAEAF

Cynhelir “Hwyl Calan Gaeaf” ym Mhlas Newydd Llanedwen ar Hydref 30, a hynny rhwng 11 a 4. Bydd cyfle i ddilyn llwybrau cwis , gweithdai crefft, peintio wynebau a llawer o hwyl arswydus.

Bydd mynediad am ddimi blant mewn gwisg ddychrynllyd!

Trefnir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

 

BLWCH POST YR HEDDLU yn y siop.

Cofiwch am y blwch yma. Os oes gennych unrhyw syniadau neu faterion i’w rhoi gerbron eich tïm plismyn lleol, yna rhowch eich neges a’ch manylion cysylltu yn y blwch sydd ar y wal ar y ffordd i mewn i’r siop,

 

 

CLWB CYFEILLION LLANDDANIEL FAB

Enillwyr y peli bonws:

Medi 1 – Anti Sarah (rhif 8)

Medi 8 – Cameron ( 31)

Medi 15 – Anti Sarah (24)

Medi 22 – i’w gadarnhau

 

 

AELWYD YR URDD

Mae’r Aelwyd wedi ail ddechrau,. O hyn ymlaen, byddwn yn cwrdd pob yn ail bnawn Mercher; yn syth ar ôl yr ysgol i flynyddoedd 1 a 2, a rhwng 4.30 a 5.30 i flynyddoedd 3 i 6, a hynny dan arweiniad Mrs Siân Owen.

 

 

CROESO

Croeso’n ôl i Brifathrawes Ysgol Parc y Bont , Mrs Siwan Tecwyn Jones, sy’n dychwelyd ar ôl pum tymor o secondiad fel ymgynghorydd. Diolch yn fawr hefyd i Mrs Siân Owen fu’n bennaeth mewn gofal am y cyfnod.





 

|Home| |Accomodation| |Anglesey Arts Weeks| |BBC Local News| |BBC's Huw Edwards| |Businesses| |Community Police| |Community Shop| |Feedback| |Guest Book| |History- Ancient| |History- Census| |History- Geneology| |History- People| |History- Village| |History- Ysgol| |Leisure| |Links| |Newyddion 2008| |Newyddion 2007| |News - submit| |Photos - old ones| |Photos - village| |Quiz| |Quiz - 1959| |Register|